Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol Undebau Cyfiawnder, a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015

 

Yn bresennol:Julie Morgan AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Helen Cunningham (staff cymorth Jenny Rathbone), Sophia Haywood (staff cymorth Julie Morgan), Nancy Cavill (staff cymorth Julie Morgan), Ann Smythe (Cymorth yr Aelodau), Andrew Neilson (Cynghrair Diwygio Cosb Howard), Tracey Worth (Napo), Stuart Arrowsmith (Napo), Jane Foulner (Napo), Emily Cannon (Unsain), Huw Price (Unsain), Kay Powell (Cymdeithas y Cyfreithwyr).

 

Ymddiheuriadau: Mike Hedges AC, Aled Roberts AC, John Hancock (Cymdeithas Swyddogion Carchar).

 

1.             CROESO AC ETHOL SWYDDOGION

 

Croesawodd Julie Morgan yr aelodau i bedwerydd Cyfarfod y Grŵp Undebau Cyfiawnder, yr ail Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyn y cyfarfod, roedd Mike Hedges wedi enwebu Julie ar gyfer ei hethol yn Gadeirydd ar y grŵp, a hynny a gytunwyd yn y cyfarfod. Yna, cynigiodd Julie Morgan y dylai Tracey Worth barhau yn ysgrifennydd, a chytunwyd y cynnig gan aelodau'r grŵp.

 

2.            COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

 

Gofynnodd Tracey Worth a oedd pawb wedi darllen y cofnodion ac a oedd unrhyw bwyntiau ynghylch cywirdeb neu faterion yn codi. Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod mis Mawrth.

 

3.            SIARADWR - ANDREW NEILSON (CYNGHRAIR DIWYGIO COSB HOWARD)

 

Cyflwynodd Julie Morgan Andrew Neilson, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd yng Nghynghrair Diwygio Cosb Howard. Mae Andrew wedi gweithio i Gynghrair Howard er 2007; cyn hynny bu'n was sifil yn gweithio fel swyddog y wasg i Peter Hain.

 

Dywedodd Andrew wrth y cyfarfod fod Chris Grayling yn Ysgrifennydd Cyfiawnder adweithiol ond radical; roedd yn adweithiol yn ei farn a'i rethreg, ond yn radical o ran ei ddiwygiadau i'r gwasanaeth prawf. Michael Gove yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Gyfiawnder, a dywedodd Andrew y byddai'n ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd nesaf. Yna trafododd Andrew yr hyn a etifeddwyd ar ôl Chris Grayling.

 

Carchardai

 

Mae poblogaeth y carchardai yn tyfu'n gyson. Ar 8 Mai, roedd 85,590 o bobl mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr - sef 898 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Er hynny, mae carchardai wedi bod wrthi yn cael y maen i'r wal o ran toriadau i'w cyllidebau a'u staffio. Carchardai sector cyhoeddus sydd yn ei chanol hi yn hyn o beth, a hynny gyda’r bygythiad o breifateiddio fel arall. Effeithiwyd ar staff carchar rheng flaen ar y landins yn arbennig.

Wrth ddadansoddi ffigurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, canfu Cynghrair Howard i nifer y swyddogion rheng flaen yng ngharchardai sector cyhoeddus Cymru gael ei thorri 37% ar gyfartaledd (o gymharu 2014 â 2010). Dyma doriad o 505 o swyddogion yn 2010 i 320 yn 2014. Mae'r dadansoddiad fesul carchar fel a ganlyn: Caerdydd - 40%; Abertawe - 32%; a Brynbuga/Prescoed - 33%.

Ar ddechrau 2015, edrychodd Cynghrair Howard ar boblogaethau carchardai unigol o'u cymharu â'r gwymp yn nifer y staff. Cynlluniwyd Caerdydd i ddal 539 o garcharorion o dan CNA (llety arferol ardystiedig) - mewn gwirionedd, daliwyd 810 o garcharorion yno. CNA Abertawe yw 242, ond daliwyd 422 o garcharorion yno. CNA Carchar y Parc - mae'n breifat wrth gwrs, felly nid yw eu ffigurau staffio gennym - yw 1,170 ond mae yno 1,452; a dylai fod 378 ym Mrynbuga, ond mae'n dal 496 o garcharorion mewn gwirionedd.

Mae Abertawe a Chaerdydd gyda’r 20 carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr. Yn wir, ar hyn o bryd, Abertawe yw'r carchar mwyaf gorlawn ond un, ar ôl Leeds.

Mae llawer o garchardai wedi cael adroddiadau arolygu damniol yn y flwyddyn ddiwethaf, wrth i effaith y toriadau hyn gael ei chlywed. Yr unig enghraifft o Gymru yw Abertawe. Yno, er gwaethaf y gorlenwi, gan fod y carchar yn gymharol fach, a chan i'r grŵp staffio gael ei ddisgrifio o fod yn 'being very settled', nid oedd yr adroddiad arolygu diweddaraf cynddrwg ag enghreifftiau yn Lloegr.

Mae'n debyg mai'r feirniadaeth fwyaf oedd methiant y carchar i gefnogi yn ddigonol garcharorion sy'n agored i niwed yn nyddiau cynnar eu carchariad - o'r pedwar hunanladdiad diwethaf yn y carchar, digwyddodd pob un yn y tair wythnos gyntaf ar ôl i'r carcharor gyrraedd.

Fodd bynnag, y duedd yn fwy cyffredinol yw cwymp mewn 'gweithgarwch pwrpasol', problem gynyddol gyda chyffuriau, a chynnydd o ran hunanladdiadau a thrais.

Mae ystadegau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer diogelwch yn y ddalfa am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015 yn dangos:

·         bod nifer yr ymosodiadau difrifol ar staff wedi cynyddu 33% o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cafwyd 477 ymosodiad difrifol yn erbyn staff yn 2014, o gymharu â 359 yn 2013 a 260 yn 2012.

·         Mae achosion o hunan-niweidio wedi codi ymhlith carcharorion gwrywaidd a charcharorion benywaidd.

·         Cofnodwyd 18,995 achos o garcharorion gwrywaidd yn hunan-niweidio. Mae hyn yn 1,779 yn fwy o ddigwyddiadau (10 y cant) nag yn 2013. Mae achosion o garcharorion gwrywaidd yn hunan-niweidio wedi cynyddu bob blwyddyn er 2007.

·         Cafwyd 6,780 achos o garcharorion benywaidd yn hunan-niweidio. Mae hyn yn 766 o ddigwyddiadau (13 y cant) yn fwy nag yn 2013. Mae'r cynnydd hwn yn mynd yn groes i'r duedd ddisgynnol a welwyd er 2010.

·         Roedd 76 hunanladdiad yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015. Roedd 88 yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2014. Mae cyfanswm y marwolaethau yn cynyddu o hyd, yn bennaf oherwydd cynnydd yn y marwolaethau drwy achosion naturiol.

·         Roedd pedwar dynladdiad yn y 12 mis hyd at 2015, o gymharu â thri yn y 12 mis cyn hynny.

Ffigurau Cymru a Lloegr yw'r rhain - nid oes dadansoddiad ar gyfer Cymru yn unig, ac wrth gwrs cedwir rhai Cymry mewn carchardai yn Lloegr. Mae hyn yn effeithio yn arbennig ar fenywod sy'n mynd i garchar fel Eastwood Park yn swydd Gaerloyw. Fel y mae'n digwydd, yn ddiweddar, cyhoeddodd bwrdd monitro annibynnol Eastwood Park ei adroddiad blynyddol, sy'n nodi’r ffaith bod ‘unacceptably tight staffing levels’ wedi creu ‘an increase in violence’ – mae hyn mewn carchar i fenywod, lle nad yw trais yn broblem fel arfer. Cafwyd tair marwolaeth yn y carchar lle na chafwyd yr un yn y flwyddyn flaenorol.

 

Yn fyr, mae carchardai Cymru wedi bod o dan yr un pwysau â charchardai Lloegr, ond fe’u hachubwyd efallai oherwydd eu maint cymharol fach. Bydd hynny'n newid pan agorir yr uwch-garchar newydd yn Wrecsam. Carchar Oakwood yw'r peth agosaf at yr hyn sydd o flaen Wrecsam. Oakwood - 'Jokewood' yw enw'r carcharorion arno - yw'r carchar lle y canfu arolygwyr ei bod yn haws cael cyffuriau na sebon.

Profiannaeth

Dywedodd Andrew fod diwygiadau Grayling i brofiannaeth yn rhai radical ac mai hwy sydd wedi mynd â'i fryd, gan adael i'r carchardai rygnu ymlaen. Dywedodd fod y newidiadau hyn yn destun pryder mawr i Gynghrair Howard, ond ei bod yn anodd dweud llawer am y peth ar hyn o bryd am mai newydd iawn yw'r newidiadau. Dywedodd eu bod yn poeni y bydd y cwmnïau adsefydlu cymunedol newydd (CRCs) yn torri nifer y staff - mae Sodexo yn sicr yn ymgynghori i dorri traean o'r staff, ac mae'n awgrymu y gallai ciosgau prawf - tebyg i'r rheini sydd i'w cael mewn rhai taleithiau yn yr Unol Daleithiau - gymryd lle unigolyn yn goruchwylio unigolyn arall. Dywedodd fod meithrin perthynas â throseddwr, sef rhywbeth a arferai fod yn allweddol ym model Cynorthwyo/Cynghori/Cyfeillio'r gwasanaeth prawf, ar stop.

Mae Cynghrair Howard yn pryderu mai peth annoeth yw'r cynllun i oruchwylio carcharorion a ryddheir wedi dedfryd fer a'i fod yn creu sefyllfa i bobl lle mae methiant yn anorfod. Mae'r oruchwyliaeth yn orfodol, a bydd pobl sy'n methu â chydymffurfio yn cael eu sancsiynu - gyda dirwyon, gwaith di-dâl, cyrffyw ac, yn y pendraw, carchar. Gellid gweld poblogaeth y carchardai yn codi o ganlyniad i'r diwygiadau wrth i bobl gael eu galw yn ôl.

Hefyd, mae dryswch yn y llinellau atebolrwydd. Mae'n rhaid o hyd i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol cyhoeddus - sef yr hyn sy'n weddill ohono - lunio adroddiadau i'r llysoedd, ond mae'n ysgrifennu adroddiadau am bobl nad yw'n eu hadnabod. Gwnaed hyn i atal cwmnïau preifat rhag argymell eu gwasanaethau eu hunain, ond gall mai hynny sy’n digwydd o hyd yn ymarferol gan fod swyddogion y Gwasanaeth sydd dan bwysau yn derbyn beth bynnag y mae'r CRC yn ei argymell iddynt.

Gallai cyswllt dioddefwyr fod yn broblem. Mewn egwyddor, y Gwasanaeth Prawf fydd yn gwneud y gwaith cyswllt dioddefwyr i gyd, ond mewn llawer o achosion ni fyddant yn goruchwylio'r troseddwr mewn achos. Yn flaenorol, mewn achos o drais domestig, er enghraifft, byddai'r swyddog prawf yn gweithio gyda'r troseddwr ac yn cysylltu â'r dioddefwr. Bellach, rhaid i'r CRC atgyfeirio dioddefwr i'r Gwasanaeth Prawf, a hyd yn oed os bydd gan y Gwasanaeth Prawf yr adnoddau i wneud y gwaith hwn, mae'n golygu oedi na fodolai gynt wrth i'r atgyfeiriad fynd rhagddo.

Byddai'n ddiddorol gennyf glywed am brofiadau pobl o'r sefyllfa yng Nghymru. Mae Working Links, ynghyd â chorff cydfuddiannol staff prawf - 'Innovation Wessex' - wedi ennill nid yn unig y contract am Gymru, ond hefyd am Fryste, swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf, Wiltshire a Dorset, Dyfnaint a Chernyw.

O ddechrau'r mis hwn ymlaen, dylid goruchwylio pob carcharor â dedfryd fer am flwyddyn wedi ei ryddhau - ai hynny sy'n digwydd mewn gwirionedd?

Yn y cyfamser, braidd yn llechwraidd, mae Grayling wedi cyflwyno newid terfynol a ddaeth i rym y mis diwethaf. Y 'ffi llys troseddol' sy'n gorfodi pobl i dalu tuag at gost eu hachos llys. Mae Gweinidogion yn disgrifio'r ddirwy, sy'n amrywio rhwng £150 a £1,200, fel un 'eithaf cymedrol'. Ond nid oes y fath arian gan y rhan fwyaf o'r bobl sy'n mynd gerbron llysoedd ynadon, er enghraifft. Yn wir, gall roi diffynyddion dan bwysau i bledio'n euog i droseddau nas cyflawnwyd ganddynt er mwyn osgoi dyledion a fyddai'n drech na hwy. Mae'r llywodraeth yn bwriadu carcharu pobl sy'n methu talu. Gallai hyn hefyd achosi i boblogaeth y carchardai dyfu yn y dyfodol, gan gostio mwy i drethdalwyr yn y pen draw nag a godir gan y ffi.

 

 

Cynghrair Howard

Dywedodd Andrew ychydig am yr hyn y mae Cynghrair Howard yn ei wneud yng Nghymru. Dywedodd eu bod yn gweithio gyda chyn-Aelod Seneddol Llafur Siân James ar ymgyrch y mae hi'n gobeithio ei lansio yn y Cynulliad yn yr haf. Mae'n ymwneud â chadw menywod o Gymru allan o'r system cyfiawnder troseddol ac allan o'r carchar. Byddant yn canolbwyntio yn benodol ar blismona menywod bregus - gan mai'r heddlu yw porthorion y system cyfiawnder troseddol.

Yr unig lwyddiant go iawn ym maes cyfiawnder yn y blynyddoedd diwethaf yw cyfiawnder ieuenctid. Mae nifer y plant a garcharwyd wedi gostwng yn sylweddol o tua 3,000 yng Nghymru a Lloegr yn 2007 i ychydig dros 1,000 heddiw. Deugain plentyn ac wyth o Gymru oedd yn y carchar y mis diwethaf. Yn 2010, roedd 251. Cred Cynghrair Howard mai newidiadau o ran plismona yw'r prif sbardun yn hyn o beth - mae nifer y plant a arestiwyd yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 59 y cant mewn pum mlynedd.

Y llynedd, yng Nghymru a Lloegr, arestiodd yr heddlu 129,274 o blant 17 oed neu'n iau. Mae'r arestiadau hyn yn cynnwys 1,107 o blant a oedd yn 10 neu'n 11 oed, sy'n golygu bod tri o blant oed ysgol gynradd yn cael eu harestio bob dydd ar gyfartaledd. Yn 2008, roedd cyfanswm y plant a arestiwyd wedi cyrraedd 318,053 - neu arestiad ar gyfer pob 99 eiliad. Yn Ne Cymru yn yr un cyfnod, gostyngodd nifer y plant a arestiwyd 54%. Yng Ngogledd Cymru, cafwyd gostyngiad o 68%, gyda 51% yng Ngwent a 61% yn Nyfed-Powys.

Mae Cynghrair Howard wedi bod yn gweithio gyda heddluoedd yn y cyfnod hwn er mwyn eu hannog i symud i'r sefyllfa hon a chredant y gallai dull tebyg weithio gyda menywod yng Nghymru - a thu hwnt.

Cwestiynau a sylwadau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Camau gweithredu

 

·         Bydd y grŵp yn ysgrifennu llythyr cyflwyniadol i Mr Gove yn cydnabod ei benodi'n Ysgrifennydd Cyfiawnder ac yn gofyn iddo sut, yn ei farn ef, y mae Drwy'r Giât yn datblygu.

 

·         Bydd Andrew Neilson ymholi ynghylch oedi o ran y Bwrdd Parôl.

 

·         Bydd y grŵp yn ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn am adborth ar y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr a'i heffaith ar boblogaeth y carchardai.

 

·         Bydd y grŵp yn ysgrifennu at Working Links, gan gydnabod eu bod bellach yn rhedeg CRC Cymru, ond yn eu hatgoffa bod sawl mater datganoledig sy'n rhyng-gysylltu â'r Gwasanaeth Prawf, ac yn datgan y byddai'n dda gan y grŵp gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol. Bydd hefyd yn lleisio pryderon ynghylch diswyddiadau diweddar a gyhoeddwyd gan CRCs eraill.

 

·         Bydd y Grŵp yn gofyn i Working Links am cerdyn cyfraddau y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

 

 

Paratowyd y cofnodion gan Tracey Worth, NAPO Cymru.